Peidiwch â rhoi targed hawdd i ladron cyfleus yr haf hwn; yn enwedig o ran eich cartref. Os ydych chi'n mynd i ffwrdd yr haf hwn, cofiwch: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau llenni / bleindiau, yn gadael lamp ar amserydd, ac yn troi unrhyw oleuadau allanol ymlaen. Cofiwch wirio bod yr holl ddrysau a ffenestri wedi'u cloi - gwiriwch gatiau allanol hefyd i wneud yn siŵr eu bod wedi'u cloi. Byddwch yn ofalus ynglŷn â phwy rydych chi'n dweud wrtho eich bod chi'n mynd ar wyliau. Ceisiwch osgoi postio am fod i ffwrdd ar gyfryngau cymdeithasol a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â gosodiadau preifatrwydd eich cyfrif. Gofynnwch i'ch cymdogion gadw llygad ar eich eiddo tra nad ydych chi yno. Byddwch yn wyliadwrus yr haf hwn; os byddwch yn sylwi ar weithgarwch, pobl neu gerbydau anarferol, neu'n gweld unrhyw beth amheus yn eich cymdogaeth, rhowch wybod amdano. Am achosion nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 101 Os yw'n argyfwng, neu os gwelwch chi drosedd yn digwydd, ffoniwch 999. #CyngorDiogelwchYrHaf |